Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:   Ystyriodd y Llywodraeth a fyddai’n bosibl cynnal ymgynghoriad mewn ymateb i’r newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Dyma ran o’r system cyllid myfyrwyr lle y mae cyfleoedd cyfyngedig iawn i Gymru i ddilyn llwybr gwahanol. Gan nad oedd llawer o amser i ddeddfu mewn cysylltiad â benthyciadau Cymreig fel ymateb i newidiadau gan Lywodraeth y DU ar gyfer benthycwyr o Loegr, ni fu cyfle i gynnal ymgynghoriad. Mae’r Memorandwm Esboniadol wedi cael ei dynnu’n ôl, ei ddiwygio a’i ailosod er mwyn adlewyrchu hyn.

Mae’r pwynt craffu ar rinweddau yn cyfeirio at Gynllun 5 – er mwyn bod yn eglur, ni fydd benthyciadau a ddarperir gan Weinidogion Cymru yn fenthyciadau Cynllun 5.